Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar i Gomisiwn y Cynulliad dderbyn
argymhelliad pwyllgor craffu’r Bil Ieithoedd Swyddogol dros
sicrhad ar wyneb y Bil y cyhoeddir Cofnod cwbl ddwyieithog o holl
drafodion y Cynulliad. Mae eu hargymhellion yn adlewyrchu
dymuniad pobl Cymru i weld triniaeth cyfartal i’r Gymraeg ac
i atal camwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg a’i
defnydd.
Cyflwynwyd y ddeiseb gan: Ceri Phillips
Ystyriwyd y ddeiseb am y tro cyntaf: 19 Mehefin 2012
Nifer y llofnodion: 748